Shop now open! Share your love of music and support Playlist for Life. Visit now.

Shop now open! Share your love of music and support Playlist for Life. Visit now.

Amdanom ni

Photo of founder Sally Magnusson and her mother Mamie

Elusen dementia a cherddoriaeth yw Playlist for Life. Sefydlwyd yr elusen yn 2013 gan yr awdur a’r darlledwr Sally Magnusson yn dilyn marwolaeth ei mam, Mamie, oedd yn dioddef o dementia. Mae ein gweledigaeth yn un syml: rydym am weld bod gan bawb sydd yn byw gyda dementia restr chwarae unigryw a phersonol a bod pawb sydd yn eu caru neu’n gofalu amdanyn nhw, yn gwybod sut i’w ddefnyddio.

Buddion rhestrau chwarae personol

Mae mwy na dwy ddegawd o ymchwil wyddonol wedi dangos y gall gwrando ar restr chwarae bersonol wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae gan wrando ar gerddoriaeth ag ystyr personol iawn lawer o fuddion seicolegol, gan olygu gall unrhyw un elwa o restr chwarae. Gall rhestrau chwarae personol:

  • leihau gorbryder
  • gwella eich hwyliau
  • gwneud tasgau anodd yn haws i’w cwblhau
  • hel atgofion sy’n gallu helpu teuluoedd a gofalwyr i gysylltu.

Mae Playlist for Life yn manteisio ar effeithiau pwerus cerddoriaeth bersonol i helpu unrhyw un y mae dementia yn effeithio arno, ei deulu a’i ofalwyr. Boed yn gerddoriaeth dawns gyntaf, hwiangerddi o blentyndod neu arwyddgan hoff sioe deledu, mae gan gerddoriaeth y gallu i’n cludo’n ôl i amseroedd a fu a’n hatgoffa o’n gorffennol, gan roi ymdeimlad o ôl-fflach i ni. Gall rhannu eich caneuon a’ch atgofion helpu pobl sy’n byw gyda dementia gysylltu â theulu, ffrindiau a gofalwyr.

Dechrau Arni

Mae cerddoriaeth ym mhobman ac mae’n rhan o’n bywydau beunyddiol. Mae eich rhestr chwarae mor unigryw â chi eich hun, felly dylai eich rhestr chwarae gynnwys cerddoriaeth sy’n bersonol ac sy’n hel atgofion pleserus neu ymatebion emosiynol cadarnhaol. Fe ddylai gynnwys y tonau hynny sydd yn rhoi’r ymdeimlad hynny o ‘ôl-fflach’ pryd bynnag fyddwch chi’n eu clywed; sydd yn eich cludo’n ôl, i gyfnod, person neu le gwahanol. Gyda’i gilydd mae’r gerddoriaeth yn creu trac sain eich bywyd.

Mae dechrau arni mor rhwydd â gwrando ar gerddoriaeth neu ganu. A oes caneuon sy’n sbarduno atgofion? Gwnewch nodyn ohonyn nhw. Rydych chi eisoes ar ben ffordd i greu eich rhestr chwarae bersonol chi!

I greu rhestr chwarae bersonol, mae angen i ni ddod o hyd i’r tonau hynny sydd yn arbennig i ni a’u rhoi nhw mewn un man. Gall eich rhestr chwarae fod yn hir neu’n fyr. Gellir ei ysgrifennu ar ddarn o bapur. Gellir ei recordio ar dâp cymysg neu ei wneud ar gyfrifiadur gyda rhaglen tebyg i Spotify neu iTunes.

Byddwch cystal â lawr-lwytho un o’n hadnoddau am ddim fydd yn eich helpu chi ar bob cam o’ch taith i greu rhestr chwarae: o ddod o hyd i ganeuon i ddefnyddio cerddoriaeth yn effeithiol a chynnwys rhestr chwarae mewn trefn feunyddiol.

Adnoddau

PDF Taflen Dechrau Arni (fersiwn ddigidol rhyngweithiol) Darganfyddwch fuddion rhestrau chwarae wedi’u personoli a sut i gysylltu drwy gerddoriaeth

Rhestrau Chwarae Spotify Mae ein rhestrau chwarae Spotify yn cynnwys ystod eang o themâu a gellir gwrando arnyn nhw am ddim

PDF Llyfryn Trac Sain eich oes (fersiwn digidol rhyngweithiol) Yr arf perffaith i ddechrau arni gyda rhestr chwarae

Fersiwn PDF i’w argraffu adref 

PDF Dechrau Sgwrs (fersiwn digidol rhyngweithiol) Mae’n dweud wrthych i ddechrau adeiladu eich rhestr chwarae bersonol

Fersiwn PDF i’w argraffu adref